DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

Hysbysu mewn perthynas ag Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 na chânt eu gosod gerbron y Cynulliad

DYDDIAD

30 Hydref 2018

GAN

Julie James AC, Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip

 

 

Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol a Chynllunio Amrywiol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

 

Effaith yr OS o ran Cymru:

O ran effaith yr OS yng Nghymru, ei unig effaith yw gwneud cywiriad technegol i'r diffiniad o wastraff yn adran 336 o Town and Country Planning Act 1990, sy'n gymwys i Gymru ac i Loegr. Mae angen gwneud y cywiriad er mwyn sicrhau bod y llyfr statud yn parhau’n gyfredol.

 

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

Mae'r OS (pan fo'n berthnasol i Gymru) yn gwneud darpariaeth sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol, fodd bynnag, o dan yr amgylchiadau eithriadol hyn pan fo gofyn inni ystyried a chywiro nifer digyffelyb o ddarnau deddfwriaeth o fewn amserlen dynn gan ddefnyddio adnoddau cyfyngedig, egwyddor gyffredinol Llywodraeth Cymru yw ei bod yn briodol inni ofyn i Lywodraeth y DU ddeddfu ar ein rhan ar gyfer nifer mawr o offerynnau statudol.

 

Gan fod peth deddfwriaeth gyfatebol yn ei lle yng Nghymru, bwriedir mynd i'r afael â chywiriadau i ddiffygion yn y ddeddfwriaeth honno drwy wneud Offerynnau Statudol Ymadael â'r UE ar gyfer Cymru. 

 

Diben y diwygiad

Diben yr OS hwn (y weithdrefn negyddol), a fydd yn cael ei gyflwyno gan y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, yw mynd i'r afael â methiannau cyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu'n effeithiol, ac â diffygion eraill sy'n codi yn sgil y ffaith bod y DU yn ymadael â'r UE.

 

Diben y ddarpariaeth, sy'n gymwys yng Nghymru, yw cywiro cyfeiriad sydd wedi dyddio at ddeddfwriaeth yr UE.Mae'n cael ei wneud o danEuropean Union (Withdrawal) Act 2018 and the European Communities Act 1972. Ni fydd yr offeryn yn cyflwyno unrhyw newidiadau polisi.

 

Mae'r OS a'r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef, ac sy'n nodi effaith y diwygiad hwn, i’w gweld yma:

https://www.gov.uk/eu-withdrawal-act-2018-statutory-instruments/the-environmental-assessments-and-miscellaneous-planning-amendment-eu-exit-regulations-2018

 

Pam y rhoddwyd cydsyniad

Rhoddwyd cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud y cywiriad hwn o ran, ac ar ran Cymru, am resymau’n ymwneud ag effeithlonrwydd, hwylustod ac oherwydd ei fod yn fân ddiwygiad sy'n un technegol ei natur. Byddai gwneud OSau statudol ar wahân yng Nghymru a Lloegr yn arwain at ddyblygu, ac at gymhlethu'r llyfr statud yn ddiangen.

Diben y diwygiad hwn yw diweddaru cyfeiriad sydd wedi dyddio, ac mae angen gwneud hynny er mwyn sicrhau y bydd y ddeddfwriaeth yn gallu gweithredu'n effeithiol ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Mae’r diwygiad wedi cael ei ystyried yn llawn ac nid oes unrhyw wahaniaeth o ran polisi rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae'n briodol, felly, i Lywodraeth y DU wneud yr OS yn yr achos hwn.